Golwg unigryw ar ymgais tri o bobl i ddianc dyled. Yr opsiwn gorau i Cath, y cyn gweithiwr cymdeithasol, fyddai mynd yn fethdalwr er byddai hynny’n peryglu ei chartre. Ond mae hynny’n ddihangfa fydd yn costio dros bum cant o bunnoedd iddi; arian sy’n anodd ei gael. Mae Helen, gwraig milwr, yn brwydro yn erbyn mynydd o ddyled sy’n cynnwys sawl benthyciad “payday.” Mae hi’n trio ysgwyddo beichiau ei gwr; cyn milwr sy’n dioddef o PTSD wedi sawl cyfnod yn Afghanistan ac Irac.
Mae bywyd Ricky, sy’n ddi-waith, wedi mynd ar chwâl ar ôl i’w fam farw. Yn ogystal â dyledion o’r angladd a’r fynwent, mae cost yswiriant ei gar wedi neidio ar ôl i’w statws newid o fod yn ofalwr i fod yn ddi-waith.
Darlledwyd yn gyntaf ar BBC One Wales – 2 Gorffennaf 2014
SYLW’R WASG: http://www.southwalesargus.co.uk/news/11250434.Gwent_advice_office_handled__pound_11m_worth_of_debt_queries/