Mae Resolve yn gyfres cylchgrawn pedair pennod. Mae’n cynnwys golygfeydd o’r comedi sefyllfa ffuglennol ‘Meet the Robinsons’ ynghyd a chyfweliadau treiddgar gydag amrywiaeth o arbenigwyr. Mae’n rhan o gwrs sy’n helpu pobl sydd eisiau gwneud newidiadau i’w bywydau, gan droi addunedau yn weithredoedd. Roedd deunyddiau cwrs Resolve yn rhan o gynllun peilot yn Ne Ddwyrain Lloegr yn wreiddiol, ac maen nhw bellach yn cael eu defnyddio ar draws y DU. Cynhyrchwyd y gyfres gan Alpha ar gyfer yr elusen The Ugly Duckling Company.