Wedi ei sefydlu yn 2014 gan yr Uwch Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Cyfres, Iwan England, mae Cynyrchiadau Alpha wedi creu rhaglenni dogfen a rhaglenni ffeithiol arobryn ar gyfer darlledwyr fel BBC One, BBC Two, S4C a BBC Cymru. Mae gwaith y cwmni’n amrywio o gyfresi dogfen pry ar wal, rhaglenni hanes a chyfresi wedi eu cyflwyno. Mae Alpha hefyd wedi datblygu enw da am gydweithio gyda thalentau comedi wrth greu cyfresi ffeithiol a chyfresi wedi eu sgriptio ar gyfer platfformau radio, teledu a digidol.