O fideo byr i ddal sylw arlein, i gyfresi aml bennod – mae gan Cynyrchiadau Alpha y profiad a’r arbenigedd i gyflenwi unrhyw anghenion cynyrchu sydd arnoch chi. Rydym ni wedi gweithio gydag elusennau, sefydliadau trydydd sector a diwydiant i ddarparu ystod eange o wasanaethau.
Astudiaeth Achos – The Happiness Lab
Gofynodd elusen The Ugly Duckling Company i ni eu helpu i gynhyrchu cwrs chwe wythnos sy’n cyflwyno’r sgiliau a’r arferion sydd eu hangen i wella hapusrwydd rhywun. Fe weithiom ni’n agos gyda thîm UDC i ddatblygu eu syniadau, ac i greu dull newydd o ddarparu’r cwrs.
Y canlyniad oedd cyfres ddogfen pry-ar-wal chwe phennod oedd yn cyflwyno prif syniadau’r cwrs, ac yn caniatau i wylwyr ddilyn eraill ar yr un siwrne â nhw. Mae’n gyfle i ddysgu gan eraill wrth iddyn nhw rannu eu profiadau bywyd ac ymateb i’r pynciau hapusrwydd yr un pryd a’r gwyliwr.
Darparodd y cwmni fideo promo sydd wedi cael ei ddefnyddio’n helath i werthu’r cwrs ar draws y byd, yn ogystal â rhagflas fer, a chwe phennod ugain munud o hyd.